#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-735

Teitl y ddeiseb: Gwneud y cyfnod sylfaen yn fwy effeithiol ar gyfer ein plant, darparu mwy o athrawon a dileu y TASau blwyddyn 2.

Testun y ddeiseb:

​Hoffwn i Gynulliad Cymru roi'r gorau i siomi ein plant yn y Cyfnod Sylfaen.

Dylai ddilyn esiampl systemau addysg mwyaf llwyddiannus Ewrop, fel yn y Ffindir a Sgandinafia.

Dylai ddarparu hyfforddiant a chyllid i ysgolion ar gyfer sicrhau cymarebau priodol rhwng athrawon a phlant, er mwyn cyflawni addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn effeithiol.

Galwaf am ddiddymu'r TASau, sef y profion gwladol, yn y Cyfnod Sylfaen. Yn syml, nid ydynt yn cyfateb ag ethos y Cyfnod Sylfaen.

Rydym wrth ein bodd gydag ethos y cyfnod sylfaen. Mae ymagwedd y Cynulliad yn chwa o awyr iach, ac yn unol â sawl darn o waith ymchwil sy'n cefnogi chwarae a arweinir gan blant hyd at saith oed. Fodd bynnag, mae'n anffodus bod addysgeg y cyfnod sylfaen yn cael ei cholli mewn llawer o ysgolion ledled Cymru. Mae hyn oherwydd diffyg hyfforddiant mewn darpariaeth chwarae yn y blynyddoedd cynnar; hyd yn oed pe bai gan yr athro yr hyfforddiant, yr angerdd a'r ddealltwriaeth i ddarparu addysgeg y cyfnod sylfaen, mae'r cymarebau rhwng yr athrawon a'r plant yn ei gwneud bron yn amhosibl. Sut y gall unrhyw athro ddilyn plentyn wrth iddo chwarae pan mae hyd at 30 o blant yn y dosbarth hwnnw, gyda dim ond un cynorthwyydd addysgu i gefnogi pob un o'r plant hynny wrth iddynt chwarae, darganfod a dysgu?

Nid ydym yn credu bod gan y TASau, sef y profion gwladol, unrhyw le yn y cyfnod sylfaen yng Nghymru. Mae'r cyfnod sylfaen yn ymwneud â chefnogi plant wrth iddynt chwarae: I ddatblygu sgiliau echddygol bras drwy symud,

I ddatblygu sgiliau echddygol mân sy'n angenrheidiol ar gyfer ysgrifennu,

 I gymryd risgiau a dysgu cyfrifoldeb,

I roi'r amser sydd ei angen arnynt i ddatblygu blociau adeiladu solid ar gyfer iaith a rhifedd,

I gael cyfleoedd i edrych yn ôl a dysgu yn ôl angen/dewis y plentyn hefyd,

I ddatblygu'r sgiliau i gael mynediad a darganfod eu hunain,

I ddysgu sgiliau cymdeithasol allweddol gyda'u cyfoedion ac oedolion.

Mae hwn yn ddull sydd wedi'i brofi er mwyn paratoi plant yn barod ar gyfer addysg gynradd yn saith oed. Dyma sut mae systemau addysg mwyaf llwyddiannus Ewrop yn gwneud pethau, ond mae disgwyl i blant chwech a saith oed ym mlwyddyn dau eistedd ac ysgrifennu mewn profion i gymharu ein plant â'r rhai yn Lloegr. Mae hyn yn gorfodi athrawon yn y Cyfnod Sylfaen i ddechrau dysgu seineg a rhifau i'n plant pan fyddant yn dechrau yn y Dosbarth Derbyn ac erbyn blwyddyn un bydd disgwyl iddynt eistedd ac ysgrifennu, gan eu gwneud yn barod ar gyfer y profion hynny sydd yn adlewyrchu ar yr ysgol.
Mae ein plant yn cael eu hamddifadu o'u plentyndod, plant sy'n dechrau yn yr ysgol yn ddim ond pedair oed yng Nghymru, sydd wedyn yn cael eu gorfodi i mewn i'r system hon, chwe awr y dydd o ddysgu dwys yn yr ystafell ddosbarth. Nid dyma ethos blaengar y Cyfnod Sylfaen y gwnaeth Cynulliad Cymru ei roi ar waith yn 2010. Rwy'n eich annog i gyd i ystyried effeithiolrwydd y Cyfnod Sylfaen ledled Cymru, gan ddarparu'r cyllid sydd ei angen i gael mwy o gynorthwywyr dysgu a hyfforddiant i ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen, fel y gall Addysg Gynradd Cymru fod yn un y gall Llywodraeth Cymru fod yn falch ohono, a ddarperir yn eithriadol ym MHOB ysgol ledled Cymru. Dylai pob plentyn yng Nghymru gael mynediad teg i chwarae cynhyrchiol, gan baratoi'r ffordd iddynt gael taith dysgu gadarnhaol a gwobrwyol.

 

Y cefndir

Y tri phrif bwynt a wnaed yn y ddeiseb yw:

§  Dylai Cymru ddilyn y model Sgandinafaidd o addysg gynnar;

§  Dylai cyllid a hyfforddiant fod ar gyfer cymarebau priodol disgybl i oedolion;

§  Dylid diddymu profion ym Mlwyddyn 2.

Cafodd y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3-7 oed yng Nghymru ei sefydlu yn 2004/05 a'i gyflwyno ar draws Cymru ym mis Medi 2010. Mae'n seiliedig ar ddulliau ar gyfer y blynyddoedd cynnar mewn gwledydd Sgandinafaidd. Dyma'r cwricwlwm statudol ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 7 oed mewn lleoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir. 

Nod y Cyfnod Sylfaen yw diwallu anghenion plant drwy ddysgu datblygiadol, dysgu drwy brofiad a dysgu gweithredol. Drwy weithgareddau atyniadol, gall plant ymarfer a chyfnerthu eu sgiliau, arbrofi gyda syniadau, defnyddio'u creadigrwydd a'u dychymyg, cymryd risgiau, datrys problemau, a gwneud penderfyniadau yn unigol, yn ogystal â mewn grwpiau bach a mawr.

Y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd

Cafodd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i werthuso'r Cyfnod Sylfaen. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ym mis Mai 2015. 

Hyfforddiant

Fel rhan o raglen werthuso'r Cyfnod Sylfaen, cyhoeddwyd nifer o grynodebau ymchwil yn ystod 2014. Mae'r canfyddiadau allweddol ynghylch hyfforddiant, cymorth ac arweiniad yn cynnwys: 

§  Bod y mwyafrif helaeth o arweinwyr yn fodlon ar y cyfan gyda'r hyfforddiant a gawsant a bod gan athrawon sy'n dweud eu bod cwblhau mwy o wyth modiwl hyfforddiant y Cyfnod Sylfaen ddealltwriaeth well a barn fwy cadarnhaol am y Cyfnod Sylfaen;

§  O'r rheini a fyddai'n newid yr hyfforddiant a ddarperir, y farn oedd bod negeseuon cymysg gan Lywodraeth Cymru – yn benodol y newid ffocws o chwarae i lythrennedd a rhifedd – wedi arwain at gamddealltwriaeth ymhlith ymarferwyr ynghylch sut i gyflwyno'r Cyfnod Sylfaen fel y bwriedir.

Roedd y gwerthusiad terfynol yn gwneud nifer o argymhellion o ran hyfforddiant, gan gynnwys:

§  Dylid rhoi sylw penodol (trwy hyfforddiant a chyfarwyddyd i ymarferwyr) ar sut i ddefnyddio addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn nosbarthiadau Blwyddyn 1, ac yn arbennig yn nosbarthiadau Blwyddyn 2;

§  Dylid diwygio modiwlau hyfforddiant y Cyfnod Sylfaen er mwyn gwella dealltwriaeth ymarferwyr o'r dulliau a'r addysgeg sydd bellach yn cael eu pwysleisio.

§  Dylid rhoi mwy o bwyslais ar y Cyfnod Sylfaen mewn cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon a chyrsiau proffesiynol eraill (gan gynnwys cyrsiau gradd Meistr). Dylai hyn gynnwys cwricwlwm ac asesiadau'r Cyfnod Sylfaen, ond mae angen rhoi sylw arbennig i addysgeg y Cyfnod Sylfaen.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu'r Cyfnod Sylfaen ym mis Tachwedd 2016. Mae'n amlinellu camau gweithredu i gefnogi a rhannu dysgu ynghylch arfer effeithiol a datblygu parhaus ar gyfer staff. Mewn perthynas â hyfforddiant, mae'n cynnwys pwyntiau gweithredu tymor byr (erbyn mis Medi 2017):

§  Llywodraeth Cymru i weithio gyda chynghorwyr her y consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol (lle bo hynny’n briodol) er mwyn sicrhau bod lleoliadau ac ysgolion yn asesu’n ddigonol lefelau sgiliau ac anghenion y rheini sy’n cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen ac yn cynnwys y mynediad priodol at ddysgu proffesiynol o fewn eu cynlluniau datblygu.

§  Awdurdodau lleol a’u consortia rhanbarthol i sicrhau bod ganddynt arbenigedd staffio priodol ar waith i arwain ar ddysgu proffesiynol o fewn y Cyfnod Sylfaen.

§  Consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i adolygu’r adnoddau hyfforddi a chyfleoedd dysgu proffesiynol eraill sydd ar gael i ymarferwyr, gan gynnwys y rheini mewn rolau arwain, a rhannu arfer da a deunyddiau cyfredol, gan ddatblygu deunyddiau a dulliau diwygiedig lle bo angen. Bydd hyn yn cwmpasu dysgu proffesiynol ym maes datblygiad plant, arweinyddiaeth, profiadau o’r amgylchedd ac addysgeg y Cyfnod Sylfaen.

Mae hefyd yn cynnwys y pwyntiau gweithredu tymor hir (erbyn Medi 2019)

§  Sefydliadau addysg uwch i sicrhau bod yn rhaid i bob rhaglen israddedig ac ôl-raddedig sy’n dyfarnu statws athro cymwysedig gynnwys cyflwyno datblygiad plentyn yn dilyn ail-ddilysu cyrsiau. Lle mae cyrsiau wedi bod drwy’r broses hon yn ddiweddar, dylai cyfleoedd i ymgorffori datblygiad plentyn i mewn i gyrsiau presennol gael eu hystyried.

Cymarebau oedolion i blant

Yn y Cyfnod Sylfaen, y cymarebau oedolion i ddisgyblion yw 1:8 ar gyfer plant tair i bump oed ac 1:15 ar gyfer plant pump i saith oed. Canfu'r adroddiad gwerthuso terfynol, ar gyfartaledd, nad yw'r gymhareb staff i ddisgyblion ar gyfer plant tair i bump oed (hy Meithrin a Derbyn) yn cael ei diwallu, a bod y gymhareb staff i ddisgyblion ar gyfer plant pump i saith oed (hy Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2) yn cael ei rhagori arni ar gyfartaledd.

Canfu'r gwerthusiad:

§  Yn 2013/14, dyrannodd Llywodraeth Cymru ychydig dros £92 miliwn ar gyfer cyflogi ymarferwyr ychwanegol i helpu ysgolion i ddiwallu'r cymarebau oedolion i blant. Dyrannwyd y refeniw hwn i awdurdodau lleol ar sail eu niferoedd disgyblion a oedd wedyn yn ei ddosbarthu i ysgolion gan ddefnyddio'u fformiwlâu cyllido eu hunain. 

§  O'r rhai a holwyd, dywedodd 72 y cant o benaethiaid a 79 y cant o ymarferwyr arweiniol mewn lleoliadau nas cynhelir a ariennir nad oeddent yn cael unrhyw anawsterau o ran diwallu'r cymarebau oedolion i ddisgyblion a argymhellir. Roedd naw o bob deg pennaeth a ddywedodd eu bod wedi dod ar draws rhwystrau o ran diwallu'r cymarebau oedolion i ddisgyblion a argymhellir hefyd yn dweud bod problemau cyllid yn rhwystr mawr o ran rhoi'r Cyfnod Sylfaen ar waith yn llwyddiannus.

Rhoddir cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal cymarebau oedolion i ddisgyblion drwy'r Grant Gwella Addysg (GGA). Mae telerau ac amodau'r grant yn nodi bod yn rhaid defnyddio'r cyllid i gefnogi'r gofyniad i weithio tuag at gymarebau staff i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen fel rhan o gwricwlwm effeithiol o ansawdd uchel y Cyfnod Sylfaen. Yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Tachwedd 2016, dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

“most of our education improvement grant goes in supporting, for instance, settings to meet the ratios between children and adults.”

O 2015-16, un GGA sydd ar gael i gefnogi'r gweithgareddau a'r canlyniadau a fwriedir o'r 11 o wahanol grantiau blaenorol (a oedd wedi'u neilltuo)[1]. Yn ystod gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o graffu ar y gyllideb ddrafft, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fod £133 miliwn wedi'i ddyrannu i'r GGA yn 2017-18. Mae hyn yn cymharu â chyfanswm o £153 miliwn ar gyfer yr 11 o grantiau unigol yn 2014-15. Nid yw'r cyfanswm i'w wario ar bob diben unigol o dan y GGA wedi'i neilltuo, ac mae'r awdurdodau lleol a'r consortia yn gwario'u dyraniadau fel y maent yn ei weld yn briodol

Profion

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn datgan yn ei ymateb i'r Pwyllgor nad yw plant ym Mlwyddyn 2 yn sefyll TASau (profion cyrhaeddiad safonol) ac nad yw'r profion darllen a rhifedd cenedlaethol y mae dysgwyr yn eu sefyll ym mlynyddoedd 2 i 9 yr un peth â'r profion TASau y mae dysgwyr yn Lloegr yn eu sefyll. Mae 'TASau' yn derm cyffredinol ar gyfer y profion neu'r asesiad a wneir ar ddiwedd Cyfnod Allweddol.

Cyflwynwyd profion darllen a rhifedd cenedlaethol statudol ym mis Mai 2013 ar gyfer pob disgybl ym Mlynyddoedd 2 i 9. Roedd llawer o ysgolion yn arfer defnyddio profion darllen a rhifedd wedi'u datblygu'n fasnachol, yn ogystal â phrofion gallu gwybyddol. Y bwriad gyda chyflwyno'r profion darllen a rhifedd cenedlaethol oedd gwneud ymarfer yn unffurf. Mae'r profion yn ategu Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) Llywodraeth Cymru ac yn ceisio olrhain cynnydd disgyblion mewn sgiliau darllen a rhifedd o Flwyddyn 2 (diwedd y Cyfnod Sylfaen) hyd at Flwyddyn 9 (diwedd Cyfnod Allweddol 3). Mae'r profion wedi'u cynllunio i roi syniad mwy eglur i athrawon o ddatblygiad dysgwyr a sicrhau bod pob ysgol yn nodi anghenion eu disgyblion er mwyn datblygu eu gallu o ran darllen a rhifedd. Bydd hyn yn eu galluogi i nodi cryfderau a meysydd i'w gwella ac i ymyrryd yn gynharach os yw dysgwyr ar ei hôl hi.

Roedd adolygiad yr OECD, Gwella Ysgolion yng Nghymru (2014) a'r Adolygiad annibynnol o'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu yng Nghymru (2015) gan yr Athro Donaldson yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio asesu yn bennaf i lywio addysgu a dysgu yn hytrach nag at ddibenion atebolrwydd. Mewn papur i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 12 Ionawr 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

"Yn allweddol, bydd y trefniadau asesu yn y dyfodol yn rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio asesu yn sail ar gyfer gwella addysgu a dysgu. Bydd hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn casglu llai o wybodaeth am berfformiad plant a phobl ifanc fesul ysgol at ddibenion atebolrwydd."

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Yr 11 o grantiau a gyfunwyd oedd Grant Refeniw y Cyfnod Sylfaen, y Grant Effeithiolrwydd Ysgolion, Llwybrau Dysgu 14-19, y Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig, y Grant Cymraeg mewn Addysg, y Grant Addysg Plant Sipsiwn a Phlant Teithwyr, y Grant Ymarferwyr Arweiniol ac Ymarferwyr Datblygol, y Grant Cymorth Profion Darllen a Rhifedd, cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion Band 4 a 5, Sefydlu Athrawon, a'r Grant Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch.